OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1600 (Cy. 199)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru)
(Rhif 2) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“y Rheoliadau Optegol”) sy’n darparu ar gyfer taliadau i’w gwneud drwy system dalebau mewn cysylltiad â’r costau yr eir iddynt gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio teclynnau optegol.
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 1 o’r Rheoliadau Optegol er mwyn cyfeirio at gynnydd o 1% yn y ffi ar gyfer prawf golwg y GIG.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1600 (Cy. 199)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru)
(Rhif 2) 2015
Gwnaed 4 Awst 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru 10 Awst 2015
Yn dod i rym 31 Awst 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 71, 76(9) 128, 129 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Awst 2015 ond mae’r diwygiadau a nodir yn rheoliad 2 yn cael effaith o 1 Ebrill 2015 ymlaen.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Rheoliadau Optegol” (“the Optical Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997([2]).
Diwygio rheoliad 1 o’r Rheoliadau Optegol
2. Yn rheoliad 1(2) o’r Rheoliadau Optegol (enwi, cychwyn a dehongli), yn y diffiniad o “NHS sight test fee”—
(a) yn lle “£58.29”, rhodder “£58.87”; a
(b) yn lle “£21.10”, rhodder “£21.31”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
4 Awst 2015